Welsh
RhagarweiniadY mae cynllun Pensiwn y Bedyddwyr yn gynllun rheoledig, wedi ei lunio ar gyfer anghenion teulu'r Bedyddwyr gan gynnig rhychwant o fanteision sy’n cynnwys yswiriant bywyd pe digwydd i aelod farw cyn ymddeol a’i bensiwn ar ymddeoliad. Y mae hefyd yn cwrdd â gofynion Hunan Gofrestriad y Llywodraeth (bydd disgwyl i bob cyflogwr gyda hyn i gofrestri'r rhai a gyflogir ganddynt ar gynllun pensiwn). Nid oes gorfodaeth i ymuno â’r cynllun ac mae rhyddid i gyflogwyr ddewis y math o bensiwn a gynigir ganddynt i’w staff. Nid oes gorfodaeth chwaith i berson cyflogedig ymuno â’r cynllun os nad ydynt yn dewis. O Ionawr 1af, 2012 y mae’r cynllun wedi ei selio ar Gyfraniad Penodol (CP) (cyfeiriwyd ato’n gyffredin fel cynllun “pryniant arian”). Mewn cynllun CP y mae’r cyflogwr a’r aelod yn cyfrannu’n fisol i gronfa bensiwn yr aelod. Y mae’r cyfraniadau hyn yn cael eu buddsoddi ar ran yr aelod gan ddarparwr pensiwn annibynnol. Yr ydym wedi dewis cwmni “Legal & General,” un o brif reolwyr cronfeydd pensiwn yn y DU i wneud hyn. Yn dilyn ymddeoliad, y mae’r aelod yn defnyddio'r arian a gasglwyd i’w gronfa i brynu incwm cyson (pensiwn) sy’n ddyladwy am weddill ei fywyd/ei bywyd. Y mae’r swm a dderbynnir ar ymddeoliad yn ddibynnol ar oed yr aelod, gwerth ei gyfraniad, y gost o brynu pensiwn ar adeg ei ymddeoliad a’r modd y lluniwyd y pensiwn ar gyfer anghenion personol yr aelod. Cyn Ionawr 1af, 2012 yr oedd pensiwn wedi ei selio ar Fudd-daliad Penodol (BP) (cyfeiriwyd ato’n gyffredin fel cynllun cyflog eithaf). Medr cyflogwyr ac aelodau dderbyn budd o’r Cynllun BP a’r cynllun newydd CP. Y mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth ddigonol er mwyn i aelodau a chyflogwyr ddeall a chyfranogi o’r cynllun. |